bloc // December 3, 2012

GALW AM GEISIADAU ⁄⁄

ARDDANGOSFA AGORED

Yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru, Sir Ddinbych a’r Cyffiniau 2013 fe gynhelir arddangosfa aml-gyfrwng fawr a chroesewir ceisiadau ym mhob disgyblaeth, boed celfyddyd gain neu gelfyddyd gymhwysol (gan gynnwys y ddelwedd symudol neu gelfyddyd berfformans).

DETHOLWYR

Amanda Farr (Cyfarwyddwr Oriel Davies, Y Drenewydd), Laura Ford (Artist a Cherflunydd) Fennah Podschies (Curadur ac Ymgynghorydd Crefft)

Dyfernir anrhydeddau yn yr adrannau canlynol

CELFYDDYD GAIN
Y FEDAL AUR AM GELFYDDYD GAIN
Gwobr: Medal Aur am Gelfyddyd Gain (replica) a £5,000

CREFFT A DYLUNIO
Y FEDAL AUR AM GREFFT A DYLUNIO
Gwobr: Medal Aur am Grefft a Dylunio (replica) a £5,000

YSGOLORIAETH ARTIST IFANC
Ysgoloriaeth: £1,500

Robyn@eisteddfod.org.uk